Rhif y ddeiseb: P-05-924

Teitl y ddeiseb: Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

Testun y Ddeiseb:  Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cyflwyno Llysgenhadon Llesiant hyfforddedig, fel bod pob plentyn yn cael cyfle i gael cefnogaeth cyfoedion gan fyfyrwyr model rôl sydd wedi’u hyfforddi i fod yn gyfaill i ddisgyblion sy’n agored i niwed yn ystod amser egwyl ac amser cinio, a fydd yn rhoi gwybod am faterion bwlio a bod yno fel ffrind i ddisgyblion a allai deimlo’n unig ar adegau penodol drwy gydol y dydd. Rydym yn gobeithio y bydd Rolau Llysgenhadon Llesiant yn datblygu/esblygu i redeg mentrau mewn ysgolion, yn y sir ac yn genedlaethol, er mwyn sicrhau bod ymgyrch o neges glir o ddim goddefgarwch i fwlio a bod lles yr holl ddisgyblion yn cael ei roi ar y pwys mwyaf ym mhob ysgol, i gefnogi hawliau’r plentyn ymhellach. Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn mynd ymhellach er mwyn helpu i leihau faint o fwlio a welir mewn ysgolion ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus mewn ysgolion ledled Cymru.

Gwybodaeth ychwanegol: Yn 2016, cawsom ein dewis i gynrychioli Cymru fel rhan o brosiect ENABLE, menter yn y DU i dreialu gwersi gwrth-fwlio. Roedd rhan o’r fenter yn cynnwys hyfforddi disgyblion i gefnogi cyfoedion. Fodd bynnag, penderfynwyd mynd â hyn gam ymhellach drwy hyfforddi disgyblion i ddod yn llysgenhadon gwrth-fwlio. Ar ôl llawer o drafod gyda'n Senedd Ysgol, esblygwyd y cynllun llysgenhadon, gan newid ei enw i lysgenhadon llesiant. Roeddem am symud i ffwrdd o ddefnyddio'r gair bwlio yn rhy aml gan ein bod yn teimlo nad oedd disgyblion yn deall y gwahaniaeth rhwng gwrthdaro a bwlio. Roeddem hefyd eisiau i ddisgyblion wybod mai llesiant yw ein prif flaenoriaeth. Bydd disgyblion sy'n rhan o'r cynllun yn crwydro ardaloedd o amgylch yr ysgol, yn sylwi ar ddisgyblion sydd ar eu pennau eu hunain neu os ydyn nhw’n gweld bwlio yn digwydd maen nhw'n rhoi gwybod i'r oedolyn agosaf y maent yn ei weld, o'r Pennaeth i oruchwylwyr cinio.

Rydyn ni'n cwrdd unwaith y mis fel grŵp a phob blwyddyn rydyn ni'n esblygu'r cynllun ymhellach. Ar hyn o bryd rydyn ni’n edrych ar feinciau cyfeillion fel bod disgyblion sy'n teimlo'n unig yn gallu eistedd yno a bydd llysgennad llesiant yno i'w cefnogi. Mae llawer o'n llysgenhadon hefyd yn aelod o’r Bwrdd Amddiffyn Iau o ganlyniad.


Y flaenoriaeth a roddir i lesiant mewn ysgolion yng Nghymru

Strategaeth Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio codi lefel y flaenoriaeth a roddir i lesiant disgyblion yn yr agenda gwella addysg. Dyma un o'r prif wahaniaethau rhwng ei chynllun gweithredu addysg, Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl 2017-2021, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2017, a rhagflaenydd y cynllun hwnnw, sef Cymwys am Oes. Un o dri amcan galluogi y Cynllun yw: “Ysgolion cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i sicrhau rhagoriaeth, tegwch a lles’. Mae'r cynllun yn nodi’r canlynol:

Mae plant a phobl ifanc sydd â chydberthnasau cryf ac ymdeimlad cadarnhaol o’u hunain – ac sy’n gallu deall a rheoli eu hiechyd a’u hemosiynau eu hunain – mewn sefyllfa well i gyflawni eu potensial llawn yn y dyfodol. [fy mhwyslais i]

Dywedodd Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg, wrth gynhadledd Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru (ADEW) ym mis Ionawr 2018, fod Cymru ar drobwynt yn y modd y mae ysgolion yn ymdrin â llesiant plant a phobl ifanc. Dywedodd fod yn rhaid i hyn fod yn rhan o ethos yr ysgol a'i weithredu'n gyffredinol gan fod gan ysgolion rôl bwysig i'w chwarae a bod athrawon mewn sefyllfa dda i sylwi ar newidiadau yn ymddygiad disgyblion. 

Arolygiadau Estyn

Mae gan lesiant le mwy amlwg nag yr oedd ganddo eisoes yn y Fframwaith Arolygu Cyffredin, sef y fframwaith y mae Estyn wedi’i ddefnyddio ers mis Medi 2017. Un o feysydd arolygu'r fframwaith yw 'Llesiant ac agweddau at ddysgu'.

Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Estyn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (CYPE) yn nhymor yr hydref 2017 yn nodi bod y corff wedi cryfhau ei ffocws ar les emosiynol yn ei drefniadau arolygu newydd, ac roedd yn cynnwys darnau o’r canllawiau perthnasol ar gyfer ei arolygwyr.

Ymdrin ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl fel ysgol gyfan

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu 'dull ysgol gyfan' o gefnogi iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ymhlith disgyblion. Mae hyn yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a gyhoeddodd adroddiad ym mis Ebrill 2018, gan dynnu sylw at yr angen am newid mawr o ran sut y mae anghenion plant a phobl ifanc yn y maes hwn yn cael eu diwallu.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol, o dan gyd-gadeiryddiaeth y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn datblygu dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a lles iechyd meddwl, a hynny fel rhan o ymagwedd system-gyfan sydd hefyd yn cydnabod y cysylltiadau rhwng lles meddyliol a lles corfforol. Fel y mae llythyr y Gweinidog Addysg at y Pwyllgor hwn ynghylch y ddeiseb yn ei nodi, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n drafftio canllawiau newydd i ysgolion ynghylch ymgorffori'r dull ysgol gyfan hwn.

Canllawiau gwrth-fwlio

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau gwrth-fwlio newydd, sy’n disodli'r canllawiau cychwynnol (Parchu Eraill, 2003) a’r deunyddiau atodol (2011).

Mae'r canllawiau newydd yn statudol, ac mae’r statws hwnnw wedi cael ei groesawu gan Gomisiynydd Plant Cymru, a oedd eisoes wedi beirniadu’r bwriad i roi statws ymgynghorol anstatudol i’r canllawiau. Dywedodd y Comisiynydd, Sally Holland, wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifac and Addysg ar 6 Tachwedd 2019:

… I'm absolutely thrilled because the Minister has announced today that the guidance will be statutory, which has been a key call from my office for a number of years, and that schools will be required to record and monitor bullying incidents. They will be required to monitor the effectiveness of their interventions to prevent bullying and to tackle bullying. They'll be required to look at the outcomes on bullying incidents. Local authorities will also have statutory requirements to look at the effectiveness of anti-bullying strategies across a local authority. (…)

… our response [to the consultation on the draft guidance] was … that it wasn't good enough in the draft, because the draft was non-statutory. This is a really good example, I think, of a Minister actually—because the draft didn't even give the option on statutory—really listening to feedback and it being a really genuine consultation, because she's responded to that feedback and has announced today the advanced anti-bullying work that's going forward. So, I think it's got a much bigger chance now of being consistently effective.

Yn ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2018-19nododd y Comisiynydd Plant fod bwlio yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i blant a phobl ifanc, fel yr amlygodd ei hymgynghoriad Cymru gyfan,  Beth Nawr, a ddangosodd mai bwlio oedd yr ail eitem ar eu rhestr o bryderon.

Y cwricwlwm newydd i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd a’r 'Ysgolion Arloesi', wedi datblygu cwricwlwm newydd i Gymru, yn dilyn Dyfodol Llwyddiannus, sef yr adolygiad a gynhaliwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn 2015.

Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei seilio ar bedwar diben a chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Un o’r meysydd dysgu a phrofiad yw Iechyd a Lles. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cwricwlwm drafft ar gyfer Cymru ym mis Ebrill 2019. Yn dilyn ymarfer adborth, mae wrthi’n mireinio’r ddogfen ymhellach cyn ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2020.

Caiff y Cwricwlwm newydd i Gymru ei gyflwyno fesul cam o fis Medi 2022. Bydd yn cael ei addysgu i ddechrau yn yr ysgol gynradd a Blwyddyn 7 cyn mynd ymlaen i Flwyddyn 8 yn ystod 2023/24 ac yn y blaen wrth i'r disgyblion hyn symud i fyny drwy’r ysgol nes eu bod yn cyrraedd Blwyddyn 11 yn 2026/27.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi’i seilio ar ddibenion yn hytrach na’i ddiffinio yn syml gan ei gynnwys. Gan hynny, nid oes ‘rhaglenni astudio’, a bydd llai o ragnodi o ran yr hyn y mae’n rhaid ei ddysgu nag yn y cwricwlwm presennol. Bydd y cwricwlwm newydd yn seiliedig ar ddull tair-ochrog o ran Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad.

O fewn pob maes dysgu a phrofiad, mae cyfres o ddatganiadau 'Yr Hyn sy'n Bwysig', a fydd yn sylfaen i'r hyn a addysgir. Un o bum datganiad ‘Yr Hyn sy'n Bwysig’ ym maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles yw 'Mae'r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddynt yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles emosiynol’.

Mae'r canllawiau statudol drafft ar faes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles yn nodi:

Bydd Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn helpu’r dysgwyr i ddeall sut y mae iechyd meddwl a lles emosiynol unigolion yn dylanwadu ar y ffordd maent yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn.  Bydd hefyd yn helpu dysgwyr i archwilio’r cysylltiadau rhwng profiadau bywyd a lles meddyliol ac emosiynol. 

Drwy ddeall yr amodau sy’n hyrwyddo ac yn effeithio ar iechyd meddwl a lles emosiynol, caiff dysgwyr eu cynorthwyo i ymdopi â’r profiadau y byddant yn dod ar eu traws yn ystod eu bywyd.  Cânt hefyd eu cynorthwyo i ddatblygu eu gallu i ganolbwyntio ar y ffordd y maent yn meddwl ac yn teimlo yn ystod eu profiadau.  Yn ogystal â hyn, byddant yn archwilio sut maent yn canfod profiadau.  Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr feithrin sgiliau hunanymwybyddiaeth ac empathi.  Mae hunanymwybyddiaeth yn galluogi dysgwyr i fod yn agored i dderbyn emosiynau ac i fyfyrio arnynt, ac mae hyn yn eu helpu i addasu eu hymddygiad a’u gweithredoedd i wahanol sefyllfaoedd. Mae hyn yn ei dro yn galluogi dysgwyr i weithredu ag empathi, cydymdeimlad a charedigrwydd tuag atynt hwy eu hunain ac at eraill.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddiwygio'r cwricwlwm mewn erthyglau blog a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad ym mis Mai 2019 ac ym mis Ionawr 2019.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.